Excellence Awards

4th November 2016 - Catch Up® Excellence Awards: Ysgol Carreg Emlyn, Ruthin - GOLD award winner

Organisation: Ysgol Carreg Emlyn
Intervention: Catch Up® Literacy, Catch Up® Numeracy
Submitted by: Einir Wynne Jones

Background
Mae Ysgol Carreg Emlyn yn ysgol naturiol Gymraeg yn Sir Ddinbych ac wedi bod yn agored ers Medi 2014 ers cau ysgolion Cyffylliog a Clocaenog. Mae gennym 85 o ddisgyblion. Mae’n ysgol hapus a’i harwyddair yw ‘Mwynhau Dysgu a Llwyddo Gyda’n Gilydd.’ Mae yna 3 cynorthwy-ydd dosbarth yn rhoi cefnogaeth Dyfal Donc a’r pennaeth yw’r cydlynydd. Mae plant yn dod o deuluoedd Cymraeg a Saesneg. Cymraeg yw iaith y cartref i ychydig dros hanner y plant. Mae gennym garfan o blant nad ydynt yn ADY ond angen hwb ychwanegol ac mae’r rhaglen Dyfal Donc yn ein galluogi i gefnogi y plant yma yn llwyddiannus.

Implementation
Rydym wedi bod yn gweithredu rhaglen Dyfal Donc Llythrennedd a Rhifedd ers i’r ysgol bresennol agor ym mis Medi 2014.

Mae yna amserlen glir sy’n cael ei dilyn yn gyson fel bod pob plentyn sydd ar y rhaglen yn gwybod pryd y bydd yn cael ei sesiwn Dyfal Donc. Mae pob athro yn gwybod y bydd plant yn gadael y dosbarth i fynychu sesiwn Dyfal Donc ac mae yna le pwrpasol i’r sesiynau gyda stor o adnoddau. Pan ddaw cyrsiau Dyfal Donc ar gael mae’r staff yn mynychu rhain er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i weithredu’r rhaglen mor effeithiol a phosibl. Mae’r cymhorthyddion hefyd yn ymweld a gwefan Catch Up am adnoddau a syniadau.

Mae’r Pennaeth/cydlynnydd yn dewis disgyblion drwy edrych ar ganlyniadau eu profion ac/neu ar eu gwaith dosbarth ac wrth drafod gyda’r athrawon dosbarth. Bydd llythyr yn mynd allan i’r rhieni yn eu gwahodd i’r ysgol er mwyn iddynt cael cyfle i drafod y mater. Ar ôl gwneud y cynnydd bydd y plentyn yn cael tystysgrif a bydd yn derbyn hwn yn ystod y gwasanaeth.

Mae’r Pennaeth/cydlynnydd yn monitro cynnydd y disgyblion yn ogystal ac arsylwi sesiynnau addysgu DD yn gyson. Rydym fel ysgol wedi helpu i dreialu gemau digidol Cymraeg DD.

Case Study 1 - Catch Up® Literacy
Daeth Disgybl A i Ysgol Carreg Emlyn ym mis Hydref pan yn 8 oed ac ar y pryd roedd o’n uniaith Saesneg. Mae o’n fachgen dymunol ond eithaf tawel. Dysgodd Gymraeg yn gyflym ond roedd o’n cael trafferth darllen yn Gymraeg. Erbyn mis Mai 2015 roedd yn medru siarad Cymraeg yn eithaf rhugl ond roedd ei sgor darllen yn llawer is na’i oed cronolegol – OC – 9:04 OD – 6:11. Roedd diffyg hyder a diffyg geirfa yn ei rwystro i ddarllen.

Nid oedd ei rieni yn gallu ei helpu am eu bod yn uniaith Saesneg ond roeddent yn gwbl hapus iddo ddechrau ar y rhaglen Dyfal Donc. Roedd Disgybl A yn falch o gael y cyfle a’r amser i ddeall ac ehangu ei eirfa.

Roedd o ar y rhaglen am 6 mis ac erbyn y diwedd roedd yn darllen llyfrau mwy addas i’w oed. Roedd ei sgor ar ddiwedd y flwyddyn wedi gwella cymaint fel ei bod wedi gwneud cynnydd o 4 mlynedd a’I oed darllen yn 10.11 mlwydd oed.

Case Study 2 - Catch Up® Numeracy
Mae Disgybl B yn dawel ond annwyl iawn. Sylwodd yr athrawes ddosbarth ei bod yn cael anhawsterau gyda’i gwaith rhif yn arbennig a cadarnhaodd sgor prawf NFER mis Tachwedd 2015 fod ganddi ddiffyg dealltwriaeth. (SS94)

Mae’r rhieni yn gefnogol iawn ac yn helpu llawer adref ac roeddynt yn falch o unrhyw gymorth ychwanegol gan yr ysgol.

Bu hi ar y rhaglen am 7 mis ac erbyn Mai 2015 roedd ei sgor safonol wedi codi i 107. Mae hi nawr yn ymdopi yn llawer gwell â gwaith y dosbarth ac yn hapusach yn y gwersi mathemateg.

Aims
Darparu amgylchedd gofalgar, heriol a deniadol, lle mae darpariaeth meddylgar ar gyfer datblygiad cyffredinol pob plentyn.
Adeiladu hyder, hunan-barch a theimlad o foddhad ar gyfer pob plentyn.
Darparu cwricwlwm eang a chytbwys.
Sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i ddatblygu yn unigol, beth bynnag fo'u rhyw, hil, crefydd neu ddiwylliant.
Annog y plant i fod yn ofalgar a hunan-ddisgybledig, parchu hawliau ac anghenion pobl eraill.
Annog y plant i fod yn annibynnol.
Magu balchder yn eu treftadaeth ac ymwybyddiaeth o Gymru, ei hiaith a'i diwylliant.