Excellence Awards

25th April 2014 - Catch Up® Excellence Awards: Ysgol Clocaenog - EFYDD enillydd gwobr (Llythrennedd Dyfal Donc)

Organisation: Clocaenog Primary School
Intervention: Catch Up® Literacy
Submitted by: Einir Wynne Jones

Background
Mae Ysgol Clocaenog yn ysgol naturiol Gymraeg. Mae ganddi 45 o ddisgyblion gan gynnwys 9 o blant meithrin. Mae’r plant yn dod o’r ardal gyfagos gan gynnwys dau bentref arall. Mae yna ddau ddosbarth a dwy athrawes llawn amser gydag eraill yn dod i mewn i ddysgu celf, cerddoriaeth ayyb. Mae yna 3 cynorthwy-ydd dosbarth. Mae plant yn dod o deuluoedd Cymraeg a Saesneg. Cymraeg yw iaith y cartref i tua hanner y plant er fod gan llawer ohonynt sgiliau Cymraeg da gan eu bod wedi mynychu ysgol feithrin Gymraeg ers yn ifanc iawn. Mae’n ysgol hapus a’i harwyddair yw Helpu ein gilydd a gwneud ein gorau glas bob amser

Implementation
Rydym wedi bod yn gweithredu rhaglen Dyfal Donc Llythrennedd ers 2010. Y pennaeth yw’r cydlynnydd ac mae gennym ddwy gynorthwyydd dosbarth sydd wedi eu hyfforddi. Yn 2011 cyflwynasom Dyfal Donc Rhifedd i’r ysgol ac mae un o’r cynorthwywyr dosbarth wedi ei hyfforddi yn y maes yma hefyd.

Mae yna amserlen glir sy’n cael ei dilyn yn gyson fel bod pob plentyn sydd ar y rhaglen yn gwybod pryd y bydd yn cael ei sesiwn Dyfal Donc. Mae pob athro yn gwybod y bydd plant yn gadael y dosbarth i fynychu sesiwn Dyfal Donc ac mae yna le pwrpasol i’r sesiynau gyda stor o adnoddau. Pan ddaw cyrsiau Dyfal Donc ar gael mae’r staff yn mynychu rhain er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i weithredu’r rhaglen mor effeithiol a phosibl.

Mae’r disgyblion yn cael eu dewis trwy edrych ar ganlyniadau eu profion ac/neu ar eu gwaith dosbarth a gyda trafodaeth gyda’r athrawon eraill. Bydd llythyr yn mynd allan i’r rhieni yn eu gwahodd i’r ysgol er mwyn iddynt gael cyfle i drafod y mater. Ar ol gwneud cynnydd yn y rhaglen, bydd y plentyn yn cael tystysgrif a bydd yn derbyn hwn yn ystod y gwasanaeth a bydd ei lwyddiant yn cael ei gofnodi yn y Cylchlythyr wythnosol.

Case Study 1 - Catch Up® Literacy
Daeth Disgybl A i Ysgol Clocaenog pan yn 9 oed ac ar y pryd roedd hi’n uniaith Saesneg. Mae hi’n ferch gyfeillgar a llawn bywyd. Dysgodd Gymraeg yn gyflym ond roedd hi’n cael trafferth darllen yn Gymraeg ac roedd ei sgor NFER ( Prawf Darllen Cymru Gyfan) yn adlewyrchu hyn. Roedd diffyg hyder a diffyg geirfa yn ei rhwystro i ddarllen.

Nid oedd ei rhieni yn gallu ei helpu am eu bod yn uniaith Saesneg ond roeddent yn gwbl hapus iddi hi ddechrau ar y rhaglen Dyfal Donc. Roedd Disgybl A yn falch o gael y cyfle a’r amser i ddeall ac ehangu ei geirfa.

Roedd hi ar y rhaglen am 10 mis ac erbyn y diwedd roedd yn darllen llyfrau addas i’w hoed. Roedd ei sgor ar ddiwedd y flwyddyn wedi gwella cymaint fel ei bod wedi gwneud cynnydd o 5 mlynedd a’I oed darllen yn 14 mlwydd oed!

Aims
Helpu ein gilydd a gwneud ein gorau glas bob amser