Excellence Awards

24th March 2014 - Catch Up® Excellence Awards: Ysgol Y Llys, Sir Ddinbych - EFYDD enillydd gwobr (Llythrennedd Dyfal Donc)

Organisation: Ysgol Y Llys
Intervention: Catch Up® Literacy
Submitted by: Mr Dyfan Phillips

Background
Sefydlwyd yr ysgol fel ysgol gynradd ddwyieithog benodol ddyddiol yn 1975. Dewis y rhieni yw anfon eu plant i’r ysgol a cheir cymysgedd o Gymry Cymraeg a phlant o gartrefi di Gymraeg tref Prestatyn a’r ardaloedd cyfagos. Ar hyn o bryd mae 259 o blant ar gofrestr yr ysgol. Mae 4 uned yn yr ysgol. Uned dan 5, uned dan 7, uned dan 9, uned dan12. Mae 12 athro llawn amser a Phennaeth. Mae 4 Cymhorthydd dysgu ac 11 cymhorthydd cefnogi dysgu.

Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol ond Saesneg eu hiaith yw mwyafrif y dysgwyr ar ddechrau eu gyrfa ysgol. Mae’r ysgol, felly, yn gwneud pob ymdrech posibl i ddysgu’r Gymraeg iddynt mor fuan ag sydd yn bosibl er mwyn iddynt fedru ymroddi i mewn i fywyd yr ysgol. Erbyn diwedd eu gyrfa yn yr ysgol trosglwydda’r dysgwyr i Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Mae tiroedd eang a deniadol i'r plant chwarae arnynt ac sydd yn ddelfrydol i’w ddefnyddio yng nghyswllt y Cwricwlwm Cenedlaethol a’r Cyfnod Sylfaen.

Implementation
Mae Sefydlwyd Dyfal Donc yn Ysgol y Llys yn 2007 a hyfforddwyd nifer o staff i gyflwyno’r ddarpariaeth. Derbyniodd ddwy gymhorthydd dystysgrifau ‘Open College Network’ Lefel 3. Mae’r broses o ddewis staff ar gyfer yr hyfforddiant yn rhan o raglen Rheoli Perfformiad y Tîm Rheoli.

Dewisir dysgwyr ar gyfer y gefnogaeth drwy ddefnyddio trefn asesu’r ysgol a drwy ddefnyddio Profion Statudol megis 'Prawf darllen Cymru Gyfan’. Cynhelir trafodaeth am y dysgwyr gydag Arbenigwyr sgiliau Llythrennedd sir Ddinbych.

Yn ystafell gyfrifiadurol y cynhelir y sesiynau ac mae amserlen wedi ei threfnu i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn dwy sesiwn o chwarter awr pob wythnos. Mae’r arbenigwr llythrennedd yn cefnogi’r ysgol yn wythnosol gyda’r ddarpariaeth.
I sicrhau llwyddiant y ddarpariaeth mae amserlen wedi ei llunio gyda chefnogaeth y pennaeth a’r athrawon.

Allwedd arall i lwyddiant y ddarpariaeth yw sicrhau cefnogaeth rhieni. Derbyn rhieni wybodaeth drwy lythyr ac mewn cyfarfodydd rhieni. Gwneir defnydd o’r gemau electroneg er mwyn rhoi profiadau amrywiol o ddarllen i’r dysgwyr.

Y Pennaeth a’r tîm rheoli sydd yn dewis staff ar gyfer eu hyfforddi. Mae’r Pennaeth ei hun wedi ei hyfforddi sydd yn dangos ymrwymiad yr ysgol i’r ddarpariaeth. Yn ddiweddar dewiswyd Miss Bethan Fryer fel cydlynydd Dyfal Donc a’i phrif gyfrifoldeb fydd monitor ffeiliau a sesiynau Dyfal Donc. Rhoddir gwybodaeth yn dymhorol am gynnydd y dysgwyr sydd yn derbyn cefnogaeth Dyfal Donc.

Case Study 1 - Catch Up® Literacy
Mae dysgwr 1 o gartref di - Gymraeg ac nid oedd yn siarad yr iaith cyn cychwyn ysgol. Roedd yn eneth swil ac yn ddi -hyder. Nid oedd yn fodlon darllen ar goedd ac roedd yn baglu gyda geiriau aml sillafog. Doedd ganddi ddim hyder i ymgeisio darllen gair anghyfarwydd. Fel arfer nid oedd yn deall yr hyn oedd yn ei ddarllen.

Erbyn hyn mae wedi ennill hyder ac yn fodlon iawn i ddarllen o flaen y dosbarth. Mae hi’n fwy hyderus wrth ddarllen y geiriau anghyfarwydd ac yn darllen gyda mynegiant. Mae gallu clymu ffonemau yn gywir ac yn rhannu geiriau hirach sillafu. Mae’n bleser gwrando arni yn darllen.

Case Study 2 - Catch Up® Literacy
Mae disgybl 2 yn dod o gartref di Gymraeg ac nid oedd yn siarad yr iaith cyn cychwyn yr ysgol. Roedd yn eneth swil iawn ac yn ddi - hyder. Doedd ganddi ddim hyder i ymgeisio darllen gair anghyfarwydd ac roedd yn darllen yn ddistaw bach. Fel arfer nid oedd yn deall yr hyn roedd yn ei ddarllen.

Erbyn hyn mae hi wedi ennill hyder ac yn fodlon iawn i ddarllen mewn grŵp neu o fewn dosbarth cyfan. Mae ganddi ddealltwriaeth ardderchog o beth maent yn eu darllen ac mae’n barod i fynegi barn. Mae yn darllen gyda mynegiant ac yn rhoi sylw i atalnodi. Mae’n bleser gwrando arni’n darllen.

Aims
Ein nod yw datblygu hunan hyder a hunan ddisgyblaeth mewn awyrgylch ofalgar a chynhaliol.