Excellence Awards

21st April 2016 - Catch Up® Excellence Awards: Ysgol Foel Gron, Gwynedd - BRONZE award winner (Literacy)

Organisation: Ysgol Foel Gron
Intervention: Catch Up® Literacy
Submitted by: Gwenan Griffiths Hughes

Background
Ysgol gynradd fechan yw Ysgol Foel Gron gydag oddeutu 45 o ddisgyblion. Mae cymhorthyddion yr ysgol wedi dilyn hyfforddiant Dyfal Donc Llythrennedd er mwyn gweithio tuag at godi hyder a dealltwriaeth disgyblion. Gwelwyd cynnydd o hyd at 2 flynedd mewn ychydig fisoedd mewn rhai disgyblion drwy’r Cynllun sydd yn eu gosod o fewn amrediad cyfartaledd eu hoed. Mae strwythr a threfn y Cynllun yn arf hylaw i ymdopi ag anghenion disgyblion ac ar sail y llwyddiant gyda chodi safonau llythrennedd rydym wedi ein symbylu i hyfforddi ar gynllun Dyfal Donc Rhifedd. Argymhellwn y Cynllun yn fawr.

Implementation
Cynheir sesiynnau Dyfal Donc ddwywaith yr wythnos gan gymhorthydd lefel 3 Dyfal Donc mewn ardal dawel, arbennig o’r ysgol i daflen amser benodol. Dewisir y disgyblion ar y cynllun drwy asesiadau ffurfiol , a thrafodaethau gyda’r athrawon, gan hysbysu’r rheini o’r bwriad ac ennyn eu diddordeb er lles eu plant. Cedwir at strwythr a rheolau’r Cynllun yn fanwl a gwelir canlyniad pendant i ddatblygiad sgiliau Llythrennedd a hyder y disgyblion o fewn ychydig sesiynnau. Bydd y cynnydd yn cael ei gofnodi a’i drafod yn fisol gyda gweddill y staff ac unrhyw bwyntiau a godi’r o’r sesiynnau a all fod o werth yn y dosbarth i eraill yn cael eu nodi a’u rhannu.
Mae’r cymhorthyddion yn cael amser digonol i baratoi a gwerthuso eu gwaith ac mae dyddiadau cyrsiau yn cael eu pasio ymlaen a phob ymdrech yn cael ei wneud i alluogi’r cymhorthyddion eu mynychu a datblygu eu sgiliau ymhellach.
Bydd y sesiynnau yn cael eu monitro gan y Pennaeth heb rybudd a daw aelod arall o staff sydd wedi astudio’r Cynllun i arsylwi ar adegau er sicrhau cysondeb a chadw at reolau’r Cynllun.
Drwy hyn i gyd, mae gwerth Dyfal Donc Llythrennedd yn amlwg yn yr ysgol.

Case Study 1 - Catch Up® Literacy
Trosglwyddodd E i’r ysgol ym mlwyddyn 1 yn wan iawn yn ei sgiliau Llythrennedd. Roedd ei waith llafar yn ddigonol ond roedd diffyg amlwg yn ei waith ysgrifenedig. Adnabyddai lythrennau’r wyddor ond nid oedd yn rhy sicr o’u trefn mewn geiriau. Roedd ei waith cofnodi yn flêr a thrafferthus. Gwnai rywbeth i osgoi gweithio a darllenai ar lefel sylweddol is na’i oed (4.5 oed darllen)pan brofwyd ef. Penderfynwyd yr elwai o ymyrraeth Dyfal Donc a’i eiriau cyntaf ar ddod i’r sesiwn gyntafoedd, “Dwi ddim yn gallu darllen”. Roedd ei ystum corfforol yn dynn ac ymwingai lawer. Dechreuwyd ar y sesiynnau ac ymhen cyfnod byr iawn, roedd E wedi datblygu ei sgiliau yn aruthrol. Roedd ei gorff wedi ymlacio, edrychai ymlaen I ddod ir seiynnau, ac roedd bellach wedi dechrau darllen llyfrau ‘Magi Ann’ a phrofi llwyddiant. Ymhyfrydai yn ei lwyddiant ac roedd hyn yn sbardun iddo weithio hydynoed yn galetach. Dros gyfnod o 12 mis gwelwyd datblygiad syfrdanol yn ei allu. Erbyn diwedd 2015 wedi blwyddyn yn unig o sesiynnau Dyfal Donc roedd E wedi codi o lefel 4 i lefel 7/ bron ar lefel 8. Canlyniad prawf safonol mis Mai oedd 6.2 ac yn Rhagfyr cododd hydynoed ymhellach I 6.9.

Aims
Yn Foel Gron rydym yn amcanu at ddarparu cyfleoedd i’r plant ehangu eu diddordebau a dod yn ymwybodol o’r byd o’u hamgylch. Bydd hyn yn eu galluogi i ddatblygu yn unigolion dibynadwy, hyderus a chrwn.