Excellence Awards

11th August 2016 - Catch Up® Excellence Awards: Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof, Cardiff - BRONZE award winner (Numeracy)

Organisation: Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof
Intervention: Catch Up® Numeracy
Submitted by: Mrs Spanswick

Background
Ysgol cyfrwng Cymraeg wedi ei lleoli yng ngorllewin Dinas Caerdydd yw Ysgol Coed-y-Gof. Mae dalgylch daearyddol eang gan yr ysgol a daw mwyafrif y dysgwyr o ardaloedd Caerau a Threlái. Disgrifiwyd yr ardaloedd yma’n ddifreintiedig a chânt eu hadnabod fel ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf. Mae 13 o ddosbarthiadau o fewn yr ysgol; gydag un dosbarth yn uned ar gyfer dysgwyr ag ADY sydd yn gwasanaethu holl ysgolion cynradd Cymraeg Caerdydd.

Ein bwriad yw darparu addysg o'r safon uchaf posibl mewn awyrgylch hapus, gofalus, gweithgar a diogel fel bod pob dysgwr, beth bynnag ei allu, yn gallu cyrraedd ei lawn potensial.

Implementation
Fel ysgol, gwelsom yr angen am ymyrraeth oedd yn cydfynd gyda gofynion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Ymgymerwyd â Dyfal Donc Rhifedd yn 2013, ac rydym yn gweld llwyddiant gyda’r ymyrraeth yn barod. Nid yn unig y llwyddiant yn y deilliannau ond hefyd yn y mwynhad a gwelir yn y dysgwyr a’r staff cyflwyno.

Yn dilyn cyfarfodydd gyda’r Cydlynydd ADY, penderfynwyd targedu 3 aelod o staff ategol i fynychu’r hyfforddiant ym mis Hydref 2013. Yn ogystal â hyn, hyfforddwyd Cynorthwyydd Lefel Uwch i fod yn gydlynydd Dyfal Donc Rhifedd gan ymgymryd â’r cymhwyster pellach ‘Rheoli Dyfal Donc’.

Defnyddiwyd dadansoddiad o’r Profion Rhifedd Cenedlaethol yn ogystal ag asesiadau mewnol a mewnbwn gan yr athrawon ar gyfer adnabod dysgwyr addas. Dechreuom ein siwrnai gyda 12 dysgwr yn y flwyddyn gyntaf, yna 15 y flwyddyn ganlynol. Aseswyd hwy bob tymor er mwyn monitro eu cynnydd a gwerthuso eu cyrhaeddiad.

Cynhaliwyd y sesiynau yn ein hystafell gefnogi, gyda’r adnoddau niferus wedi eu storio’n ganolog. Mae’r sesiynau yn cael eu hamserlennu fel bod pob dysgwr yn cael dau sesiwn 15 munud yr wythnos. Cytunwyd ar yr amserlenni gyda’r athrawon dosbarth er mwyn osgoi tarfu’n ormodol ar wersi. Rhannwyd yr amserlen gyda’r dysgwyr a’r staff perthnasol. Arsylwyd sesiynau gan y cydlynydd Dyfal Donc yn rheolaidd er mwyn monitro cynnydd a chefnogi’r aelodau o staff.

Case Study 1 - Catch Up® Numeracy
Mae dysgwr A yn fachgen hoffus a chyfeillgar. Cafodd ei dargedu fel un i ymgymryd â Dyfal Donc Rhifedd ar ddechrau Blwyddyn 6 i baratoi ar gyfer ysgol uwchradd. Dangosodd y Profion Cenedlaethol ei fod yn perfformio yn is na’i gyfoedion, a theimlodd yr athrawon fod yna fwlch yn ei sgiliau rhifedd oedd yn creu rhwystr iddo i gyrraedd ei lawn potensial. Roedd Dysgwr A wrth ei fodd gydag elfen gystadleuol y sesiynau rhifedd a wedi 8 mis o ymyrraeth llwyddodd i wneud cynnydd o 35 mis yn ei oed rhif. Wrth ddadansoddi’r hunanwerthusiad ar ddiwedd y cyfnod, gwelsom fod Dysgwr A yn teimlo’n fwy hyderus wrth gwblhau cyfrifiadau rhifedd ac yn fwy parod i gymryd rhan yn y dosbarth wrth ddelio gydag elfennau rhifedd.